Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
|
|
John Griffiths AC Y Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru
|
|
25 Hydref 2011 |
|
Annwyl John
Hoffem ddiolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 13 Hydref fel rhan o’r broses o graffu ar Gynigion Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru 2012-13.
Hoffai’r Pwyllgor gynnig nifer o sylwadau ichi eu hystyried. Bydd copi o’r ddau lythyr yn cael eu hanfon at y Pwyllgor Cyllid i ddarparu gwybodaeth iddynt ar gyfer y broses gyffredinol o graffu’n strategol ar y Gyllideb Ddrafft, a chânt eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Blaenoriaethau’r gyllideb
Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, trafodwyd â chi sut y byddai’r gostyngiad o £2.9 miliwn yn eich cyllideb rhwng 2011-12 a 2012-13 yn effeithio ar eich gallu i roi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar waith. Rydym yn croesawu’r ffaith eich bod wedi’n sicrhau bod perthynas glir rhwng y Rhaglen Lywodraethu, eich blaenoriaethau a’r gyllideb ddrafft.
TB Buchol
Trafodwyd y dyraniad yn y gyllideb i dalu iawndal ar gyfer TB Buchol. Rydym yn croesawu’r ffaith eich bod wedi egluro bod y ffigurau presennol yn seiliedig ar y taliadau a wnaed y llynedd. Rydym yn pryderu, fodd bynnag, oherwydd natur gylchol yr achosion o TB, na fydd digon o arian ar gael os bydd y taliadau iawndal hyn yn cynyddu.
Cynllunio
Trafodwyd y gostyngiad yn y llinell wariant cynllunio a goblygiadau hynny o ran cynyddu gallu’r awdurdodau cynllunio lleol i ddelio â phrosiectau seilwaith cymhleth. Rydym yn pryderu nad oes digon o adnoddau ar gael i awdurdodau cynllunio lleol i’w helpu i fanteisio ar gyngor a chymorth arbenigol er mwyn deilio’n effeithiol â phrosiectau ynni mawr. Byddwn yn adrodd ymhellach ar y mater hwn ar ddiwedd yr ymchwiliad presennol i bolisïau a chynlluniau ynni.
Un corff amgylcheddol
Trafodwyd nifer o agweddau ar y cynnig i greu un corff amgylcheddol yn ystod y cyfarfod. Rydym yn deall bod unrhyw ddatblygiadau yn y cyswllt hwn yn dibynnu ar yr achos busnes sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae rhai agweddau ar hyn yn peri pryder, fodd bynnag, o ran y gyllideb:
Rydym yn croesawu’ch ymrwymiad i ganiatáu i’r pwyllgor weld yr achos busnes dros sefydlu un corff amgycheddol wedi iddo gael ei gwblhau.
Addasu llinellau gwariant a materion yn ymwneud â gallu
Yn ystod y cyfarfod, bu i chi sôn am yr angen i addasu llinellau gwariant y gyllideb TB buchol a datblygu rheoliadau adeiladu. Adnoddau presennol Llywodraeth Cymru fyddai’n cael eu defnyddio hefyd, meddech chi, ar gyfer y gwaith a oedd ar y gweill i gyflwyno deddfwriaeth.
Tlodi tanwydd
Trafodwyd y gostyngiad mewn termau real yn llinell wariant y rhaglen tlodi tanwydd. Gan fod pris tanwydd yn codi, rydym yn pryderu na fydd y gostyngiad hwn yn ddigon i gael effaith arwyddocaol ar ymdrechion i leihau tlodi tanwydd.
Craffu ar daliadau i’r gronfa gyfunol
Trafodwyd yr hyn sy’n digwydd i daliadau a gafodd y Comisiwn Coedwigaeth fel landlordiaid o ganlyniad i gynlluniau ffermydd gwynt ar dir y mae’n ei reoli. Rydym yn pryderu bod y taliadau hyn yn mynd i’r gronfa gyfunol ac nad ydynt yn cael eu harchwilio yn llinell wariant unrhyw un o’r Gweinidogion.
Asesiad o’r effaith ar gynaliadwyedd
Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, gofynnwyd ichi a gwblhawyd asesiad o’r effaith ar gynaliadwyedd yng nghyswllt eich cyllideb. Rydym yn pryderu na chynhaliwyd adolygiad o’r effaith ar gynaliadwyedd yng nghyswllt y gyllideb ei hun, yn enwedig o gofio’r gostyngiad yn eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, gofynnwyd ichi a gwblhawyd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yng nghyswllt eich cyllideb. Rydym yn pryderu na chynhaliwyd adolygiad o’r effaith ar gydraddoldeb yng nghyswllt y gyllideb ei hun ers cylch cyllideb 2010.
Rydych wedi cytuno i roi’r wybodaeth a ganlyn inni
· Gwybodaeth am drefniadau caffael systemau treulio anaerobig;
Diolch am gynorthwyo’r Pwyllgor gyda’i waith, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn cyn gynted â phosibl.
Yn gywir
Dafydd Elis Thomas
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
c.c. Jocelyn Davies AC
Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid